Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2019
Amser:
08.30 -
09.01
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Lowri Hughes Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dosbarthodd y Trefnydd gopïau caled diwygiedig a oedd yn manylu ar y newidiadau canlynol:
Dydd Mawrth 5 Chwefror 2019
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf (45
munud) - gohiriwyd tan 12 Chwefror
·
Dadl: Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Sylweddau (60
munud) - gohiriwyd tan 12 Chwefror
Dydd Mawrth 12 Chwefror 2019
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf (45 munud) - gohiriwyd ar 5 Chwefror
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Sylweddau (60 munud) - gohiriwyd ar 5 Chwefror
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 –
· Dadl ar yr adroddiad ar Berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y Dyfodol (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Achosion o Hunanladdiad yng Nghymru (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60
munud)
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
· Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 6 Chwefror:
NNDM6950
David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
2. Yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi’r sector dur yng Nghymru sy’n ddiwydiant o bwys i economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â chostau uchel ynni sy’n wynebu’r sector dur yn y DU o’i gymharu â chostau trydan yn yr UE.
Cefnogwyr:
Jayne Bryant
Suzy Davies
Russell George
John Griffiths
Huw Irranca-Davies
Bethan Sayed
Caroline Jones
Dawn Bowden
Mike Hedges
Vikki Howells
Jack Sargeant
Alun Davies
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod unigol nesaf ar 20 Chwefror, a dewiswyd y cynnig a ganlyn:
NNDM6947
Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod gan bobl ifanc yng Nghymru rai o’r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd cysylltiedig, fel diabetes math 2;
b) bod llawer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o lygredd aer, gydag un gymuned yn profi’r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i Lundain;
c) amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn;
d) nid yw targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi’u cyrraedd yn gyson;
e) mae lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn gostwng, ac un pryder arbennig yw bod lefelau teithio llesol i’r ysgol yn gostwng; ac
f) gellid gwella pob un o’r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei gweithredu’n effeithiol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais o ran teithio llesol yng Nghymru drwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, sy’n cynnwys targedau uchelgeisiol a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Cefnogwyr:
Dai Lloyd
Russell George
Vikki Howells
Neil McEvoy
Jenny Rathbone
Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd gyda chynnig y Trefnydd bod swyddogion y Llywodraeth a’r Cynulliad yn cwrdd yn y lle cyntaf i edrych sut y gallwn wella’r ystadegau a’r materion a nodwyd yn y papur.
Cododd Rheolwyr Busnes eu pryder ynghylch cyrff cyhoeddus eraill sy’n cyflwyno dogfennau uniaith Saesneg yn unig, a nodwyd efallai y byddent am ystyried (i) pa gyrff cyhoeddus, os o gwbl, sy’n gwneud hynny yn rheolaidd a (ii) y ffordd y mae pwyllgorau’n cyflwyno galwadau am dystiolaeth ac yn pwysleisio’r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflwyno dogfennau dwyieithog.
Cododd Rheolwyr Busnes y mater hefyd nad yw’r Memoranda Esboniadol y cyfeirir atynt yn y llythyr yn cael eu cyfieithu ar ôl y cyflwyno neu ar ôl i’r terfynau amser gofynnol ar gyfer eu gosod fynd heibio. Dylid ystyried hyn hefyd mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.
Rheolau Sefydlog
Cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog: RhS12 - Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Cytunodd Rheolwyr Busnes ar y weithdrefn arfaethedig ar gyfer cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, a chytunodd mewn egwyddor i’r newidiadau arfaethedig i’r Rheol Sefydlog. Bydd adroddiad yn cael ei ddosbarthu i Reolwyr Busnes y tu allan i’r Pwyllgor y prynhawn yma, ac os cytunir, bydd cynnig i ddiwygio Gorchymyn Sefydlog 12 yn cael ei ychwanegu at agenda’r Cyfarfod Llawn yfory, a chyn hynny bydd cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i’r cynnig gael ei drafod.
Cytunodd Rheolwyr Busnes â chynnig y Trefnydd i adolygu’r newidiadau mewn ychydig fisoedd.
Unrhyw fater arall
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Aelodau o’i blaid wedi codi’r mater o ddyrannu cwestiynau atodol gydag ef. Roeddent yn pryderu am ychydig o achosion diweddar lle na alwyd arnynt i ofyn cwestiynau atodol yn y Cyfarfod Llawn. Eglurodd y Llywydd ei dull wrth alw am gwestiynau atodol ond nododd fod hylifedd hefyd yn hanfodol, a bod pa Aelodau oedd yn cael eu galw pryd bob amser yn cael ei bennu yn ôl cyfyngiadau amser a chydbwysedd o ran y pleidiau.